Croeso i Ysgol Y Gwendraeth

Rydym yn ysgol gymunedol sydd wedi ei hen sefydlu, yn ymfalchïo yn ei thraddodiadau academaidd a chwaraeon.  Mae gennym yr enw da o fod yn ysgol gyfeillgar a mawr ei gofal.  Ceisiwn gwrdd â gofynion y disgyblion i gyd drwy ymdrechion staff cymwys a phrofiadol i ddarparu cwricwlwm eang a chytbwys.

Mae gennym ddisgwyliadau uchel o’n disgyblion i gyd ac rydym yn cefnogi pob un i gyrraedd eithaf eu potensial drwy ymdrechu i ymgyrraedd at eu ‘gorau personol’ ymhob peth a wnant. O fewn cymuned yr ysgol, credwn yn gryf ei fod yn bwysig dathlu a chydnabod llwyddiant academaidd, diwylliannol a chwaraeon ein disgyblion. Credwn hefyd mewn cydnabod a dathlu o fewn cymuned yr ysgol lwyddiannau ein disgyblion yn y byd academaidd, chwaraeon a diwylliant.   Ein gweledigaeth yw “I Agor drysau i’r dyfodol trwy ddarparu cymuned hapus, mawr ei gofal, gyda phob un o werth cyfartal ac i’w hysbrydoli i geisio’r gorau dros ei hunain ac eraill.”

Mae gan yr ysgol hunaniaeth Gymreig gref sy’n adlewyrchu’r ardal, y disgyblion a’r teuluoedd y mae’n ei gwasanaethu.  Drwy’r ‘Cwricwlwm Cymreig’, yn ddyddiol, rydym yn hybu’n weithredol yr iaith Gymraeg, hanes a diwylliant Cymru.  Cynigiwn addysg drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg mewn rhai pynciau.

Credwn mewn cydweithio mewn partneriaeth gyda rhieni ac asiantaethau allanol i ymgyrraedd at y gorau i’n disgylion.  Gofynnir i rieni newydd i gyd arwyddo cytundeb Ysgol-Cartref sy’n cydnabod yn ffurfiol y bartneriaeth hon drwy adnabod yr ardaloedd y gallwn gydweithio gyda’n gilydd.

Gobeithio bydd y llyfryn yma yn ateb eich cwestiynnau ynglŷn âg Ysgol Y Gwendraeth ac edrychaf ymlaen at eich cyfarfod yn ystod y nosweithiau agored ac hefyd yn ystod y diwrnodau cyswllt Cynradd/Uwchradd yn Nhymor yr Haf.

Mr. Rees, Prifathro